Gwasg Y Lolfa yn croesawu tri aelod newydd o staff
Penodwyd Gwenllian Jones fel Rheolwr Swyddfa, Carolyn Hodges fel golygydd Saesneg a Robat Trefor fel golygydd copi Cymraeg.
Daw Gwenllian Jones, Rheolwr Swyddfa newydd Y Lolfa, o Aberaeron ac fe raddiodd hi o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel a Hanes. Bu'n gweithio i Avanti yng Nghaerdydd cyn symud yn ôl i Geredigion.
'Rwy'n hapus i gael bod nôl yng Ngheredigion ac yn edrych ymlaen at yr her o weithio i gwmni mor brysur ac amrywiol!' meddai Gwenllian.
Golygydd copi Cymraeg newydd y wasg fydd Robat Trefor o Ynys Môn. Bu'n olygydd, tiwtor a chyfiethydd yn ei dro ac fe ddechreuodd arni'n gweithio am gyfnod o bum mlynedd ar Eiriadur yr Academi. Mae ganddo brofiad o weithio yn y byd cyhoeddi a'r byd gwleidyddol fel ei gilydd.
Yn ogystal â chael ei benodi i'r Lolfa fel golygydd copi mae hefyd yn dysgu yn rhan amser yn Ysgol y Gymraeg ym mhrifysgol Bangor.
'Byddaf yn gweithio yn Y Lolfa fel golygydd copi sydd yn dipyn o gyfrifoldeb ond rwy'n falch iawn o gael dod yn ôl at fyd y llyfrau ac ymuno â'r tîm!' meddai Robat Trefor.
Ymhlith y penodiadau newydd bydd swydd newydd sbon hefyd, sef golygydd Saesneg, fydd yn cael ei chyflawni gan Carolyn Hodges.
Daw Carolyn o Buckingham yn Lloegr yn wreiddiol ac fe astudiodd ffilm yn y brifysgol cyn dod yn athrawes Saesneg yn dysgu yn Llundain a dramor yn Rhufain. Dechreuodd ar ei gyrfa golygyddol yng ngwasg prifysgol Rhydychen ble bu am 14 mlynedd.
'Mi ddysgais Gymraeg fy hun drwy ddefnyddio Say Something in Welsh a breuddwydio am ddod i fyw yma yng Nghymru a chael siarad yr iaith pob dydd,' meddai Carolyn, 'felly dwi'n teimlo'n lwcus iawn i gael y cyfle yma.'
Meddai rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Garmon Gruffudd,
'Mae'n bleser mawr croesawu Gwenllian, Robat a Carolyn i gwmni gwasg Y Lolfa. Mae'r tri yn brofiadol iawn ac yn gaffaeliad mawr i'r cwmni wrth i'r Lolfa barhau i hyrwyddo a hybu llyfrau beiddgar a blaengar yn y Gymraeg a'r Saesneg'.
Bydd Y Lolfa yn dathlu hanner canmlwyddiant sefydlu'r wasg flwyddyn nesaf.