Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

'Y Bardd Gwrthryfelgar' Deunydd newydd yn rhoi golwg newydd ar fywyd cythryblus Gwenallt

Mae deunydd newydd sydd wedi ymddangos yn taflu goleuni newydd ar yrfa, bywyd a gwaith Gwenallt –ysgolhaig, cenedlaetholwr ac un o feirdd disgleiriaf yr ugeinfed ganrif.

Mae Gwenallt – Cofiant D. Gwenallt Jones 1899 – 1968 gan Alan Llwyd, a gyhoeddir yr wythnos hon, yn gofiant cynhwysfawr a chaboledig, a hynod ddadlennol, i fardd gwrthryfelgar, llenor aflonydd ac un o feirdd mwyaf Cymru.

Ymhlith y deunydd newydd hwn ceir tua thrigain o gerddi o waith Gwenallt na welsant olau dydd erioed o'r blaen.

'Mae'r cerddi hyn yn allweddol o safbwynt deall twf a datblygiad Gwenallt,' meddai'r awdur Alan Llwyd, 'Y rhain yw'r cerddi coll yng ngwaith Gwenallt, y cerddi sy'n pontio'r ffin rhwng yr awdlau rhamantaidd cynnar, 'Ynys Enlli', 'Cyfnos a Gwawr', 'Y Mynach', a cherddi aeddfed diweddarach Ysgubau'r Awen'.

Bu Alan Llwyd yn ddigon ffodus i gael gafael ar ddogfen yn dwyn y teitl 'Wanderings', sef atgofion Albert Davies, cyfaill bore oes a chyfaill gweddill oes i Gwenallt, am anturiaethau'r ddau, gan gynnwys eu cyfnod yn y carchar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd hefyd afael ar y copïau gwreiddiol o lythyrau Gwenallt at Albert Davies, yn ogystal â chopïau gwreiddiol o'i lythyrau at ei gyfaill mawr arall, B. J. Morse.

Yn ôl Alan Llwyd, 'mae'r llythyrau hyn gan Gwenallt at ei ddau gyfaill pennaf yn hynod o ddadlennol, o safbwynt y gwaith a'r bywyd, a'r ddau yn un yn aml'.

Mae awdur y cofiant hwn hefyd yn cynnig – am y tro cyntaf erioed – dystiolaeth bendant ddiymwad ynghylch union amgylchiadau carcharu Gwenallt adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gan olrhain ei gamau yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw yn ei hanes yn ofalus ac yn fanwl.

Cafodd Gwenallt ei fagu mewn ardal ddiwydiannol, a bu farw ei dad pan losgwyd ef i farwolaeth gan fetel tawdd yn un o weithiau dur ac alcan Cwm Tawe.

Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ac achosodd storm gyda'i awdl 'Y Sant' yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci ym 1928 a gwrthododd y beirniaid ei choroni.

'Er mai byr oedd Gwenallt o ran corffolaeth, yr oedd iddo bersonoliaeth ffrwydrol, ymfflamychol a natur wrthryfelgar a phrotestgar,' ychwanegodd Alan Llwyd, 'fel grenâd mewn gwniadur'.

'Tua chwe blynedd yn ôl, fe benderfynais y byddwn yn gosod nod arbennig ar fy nghyfer i fy hun, sef llunio pedwarawd o gofiannau i bedwar o gewri llên yr ugeinfed ganrif,' meddai Alan Llwyd, 'Bellach, gyda chyhoeddi'r cofiant hwn, y mae'r dasg ar ben'.

Ymddangosodd ei gofiant dadleuol i Kate Roberts yn 2011, ei gofiant i R. Williams Parry yn 2013, a'i gofiant i Waldo Williams yn 2014 gyda phob un o'r cofiannau hyn yn cael eu canmol fel 'campweithiau'.

Cyhoeddwyd hefyd fersiwn newydd sbon o'i gofiant i Hedd Wyn, Gwae Fi fy Myw, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1991, yn ogystal â Cerddi Alan Llwyd: Yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015. Yn 2014 hefyd y cyhoeddwyd Waldo Williams: Cerddi 1922-1970, a gydolygwyd gan Alan Llwyd a Robert Rhys.

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio am 6.30 o'r gloch ar nos Wener yr 14 o Hydref yn Nhŷ'r Gwrhyd, Pontardawe.