Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Teyrnged i Gareth F Williams

Teyrnged i'r diweddar Gareth F. Williams gan Meinir Wyn Edwards, golygydd yng ngwasg Y Lolfa.

'Pleser pur oedd cydweithio â Gareth F. Roedd yn fwrlwm o syniadau ac roedd gwrando arno'n siarad am ei waith yn hwb i'r galon. Byddai ar y ffôn am ryw awr ar y tro, yn trafod popeth dan haul, hyd yn oed y llynedd ac yntau yng nghanol gwaeledd, ac roedd ei angerdd tuag at ei waith yn aruthrol. Roedd yn ysbrydoliaeth, i blant ac oedolion, mewn gweithdai ysgrifennu, ac er ei fod yn berson swil a dihyder yn y bôn, roedd ei frwdfrydedd yn heintus.

Braint iddo oedd ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 ac nid ar chwarae bach mae awdur yn cipio chwech o brif wobrau Tir na n-Og. Dywedodd wrtha i yn ddiweddar fod cael gair o ganmoliaeth am ei waith, boed hynny mewn e-bost neu ar y stryd, yn meddwl y byd iddo, ac roedd yn rhyfeddu, ac yn teimlo'n emosiynol iawn, pan fyddai'n derbyn gwobr o unrhyw fath.

Yr atgof olaf sydd gen i o Gareth yw cael cwtsh hir ganddo ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, funudau cyn iddo gamu ar lwyfan yr ŵyl fel un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen. Roedd yn amlwg mewn poen dirfawr ond roedd ei ddewrder a'i gryfder y diwrnod hwnnw yn adrodd cyfrolau amdano. Gwnaeth gyfraniad rhyfeddol i'r byd cyhoeddi yng Nghymru ac mae'n rhywfaint o galondid heddiw meddwl y bydd clasuron fel Awst yn Anogia, Dyfi Jyncshiyn ac Adref heb Elin yn dal i fod ar ein silffoedd am flynyddoedd maith, yn atgof parhaol o'i ddawn anhygoel i greu stori afaelgar. Mae ei epig, Awst yn Anogia, yn un o'r nofelau gorau i mi ei darllen erioed, mewn unrhyw iaith, a'i obaith oedd ei chyhoeddi i'r iaith Roeg ac i'r Saesneg. Beth ddaw o hynny nawr, tybed? Mae mor bwysig ein bod ni'n gwerthfawrogi ac yn annog ein hawduron a'n llenorion, cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

Roedd gan Gareth gymaint mwy i'w gynnig, cymaint o syniadau wedi'u cynnau a chymaint o heyrn gwahanol yn y tân. Tristwch o'r mwyaf yw bod y fflam honno o greadigrwydd wedi'i diffodd yn rhy gynnar, ac mae'n cydymdeimlad dwysaf ni gyda Rachel ei wraig, a'i deulu ar adeg anodd iawn.

Rydyn ni wedi colli un o awduron gorau Cymru. Braint oedd cael ei adnabod. Mae'n gadael bwlch enfawr ar ei ôl.'

Meinir Wyn Edwards, Y Lolfa (Medi 2016)