Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Yr awdur yn cwrdd a'r arlunydd

Ar ddydd Sadwrn 3ydd o Fedi daeth Dana Edwards, awdur y nofel newydd Pam?, ac arlunydd clawr ei nofel, Meirion Jones, wyneb yn wyneb yn Siop Awen Teifi yn Aberteifi. Mae'r ddau yn byw yng Ngheredigion, un ym mhen gogleddol y sir a'r llall yn y pegwn deheuol.

'Ro'n i'n falch iawn o'r cyfle i gwrdd â Meirion am y tro cyntaf,' meddai Dana. 'Rwy wedi edmygu ei waith ers blynyddoedd a ro'n i wrth fy modd pan gytunodd i un o'i beintiadau o'r Prom yn Aberystwyth gael ei ddefnyddio'n glawr i'r nofel. Mae'r llun yn adlewyrchu'r stori i'r dim - stori sy'n dilyn tri ffrind yn y degawd ar ôl iddynt adael y coleg. Ond er i ddau ohonynt symud ymhell o Aberystwyth mae cyfrinach y maent yn ei gelu o'r dyddiau hynny yn bygwth dod i'r wyneb gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol ar eu gyrfaoedd a'u bywydau.'

Mae'r nofel wedi derbyn cryn glod eisoes gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn ei dewis fel nofel y mis.