Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Caryl Lewis yw 'Brenhines newydd ein llen'

'Caryl Lewis yw brenhines newydd ein llen' – dyna yw barn un o adolygwyr amlycaf Cymru, Bethan Mair.

Daw ei sylwadau yn sgil cyhoeddi cyfrol newydd o straeon gan Caryl Lewis yr wythnos hon yn ogystal â llwyddiant Caryl yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni.

Cyfrol o straeon byrion yn ymwneud â natur, perthynas dyn a'i gyd-ddyn, cariad, colled, a gwreiddiau yw Y Gwreiddyn gan Caryl Lewis.

'Dwi'n hoff iawn o'r syniad fod yna 'goeden' o wreiddiau o dan pob coeden – sy'n ei gyrru a'i siapio' meddai Caryl, 'Ar ol ysgrifennu y stori deitl fe wnes i feddwl bod y cysyniad yn siwtio ffurf y stori fer - bod yna fyd o dan yr wyneb sy'n ein gyrru. Mae'r pethau pwysig amdano ni fel arfer yn guddiedig.'

'Mae gwreiddyn yn ein angori ac yn ein sadio, yn gadael inni dyfu ond hefyd yn ein cyfyngu' ychwanegodd Caryl, 'Mae yna ddywediad poblogaidd sy'n dweud bod angen gwreiddiau ac adenydd arnon ni, ond mae yna densiwn anochel rhwng y ddau.'

Ceir pob math o gymeriadau yn y straeon megis Hazel a Trefor yn y stori Chwarae Cardiau, Piotr yn Y Llif ac Eben yn stori y Gwahaddod – a phob un yn ceisio mynd i'r afael â chnewyllyn perthynas y cymeriadau a'i gilydd.

'Mae Caryl yn adnabod y cymeriadau gwledig sy'n llenwi'r tudalennau mor drylwyr nes ein bod yn sylweddoli'n sydyn mai awdur sy'n eu cyflwyno i ni pan ddown ar draws ambell ymadrodd syfrdanol, a disgrifiadau cynnil sy'n dwyn ein gwynt.' meddai Bethan Mair, 'Darllenais y gyfrol gyfan mewn un min nos ond byddaf yn treulio gweddill fy oes yn ei chwmni. Caryl yw brenhines newydd ein llen'.

Mae Caryl Lewis yn byw ym mhentref Goginan ger Aberystwyth gyda'i gwr a'u tri o blant. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ddwy o'i nofelau – Martha Jac a Sianco yn 2005 ac Y Bwthyn yn 2016. Ennillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith. Dyma ei hail gyfrol o straeon byrion yn dilyn Plu a gyhoeddwyd yn 2008.

Bu'n flwyddyn brysur a llwyddiannus i Caryl eleni gyda ennill gwobr driphlyg gyda'i nofel Y Bwthyn yn ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2016 a nawr cyhoeddi cyfrol newydd o straeon. Bu hefyd yn cydweithio gyda'r artist Aneurin Jones ar arddangosfa newydd yng nghastell Aberteifi.

Meddai Caryl, 'Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous a blinedig! Mae rhywun yn cael cyfnode o greadigrwydd pan mae syniadau yn codi i'r wyneb o hyd ac wedyn mae syniade yn esgor ar syniade eraill'.

'Ond mae'n bwysig cymryd mantais o gyfnode felly a gwneud beth mae'r syniade yn eich gyrru chi i wneud,' ychwanegodd.

Cyflwynir y gyfrol i'r artist Aneurin Jones.