Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Mwynhau gwyliau'r haf gyda Na, Nel!

Mae'r awdures Meleri Wyn James wedi cyhoeddi llyfr newydd yn y gyfres wreiddiol hynod o boblogaidd i blant, Na, Nel!, i gydfynd â thymor gwyliau'r haf.

Yn Na, Nel! – Aaaa! ceir tair stori newydd sbon am hynt a helynt y ferch ddireidus gan gynnwys 'Y Gwyliau Gwaethaf' – hanes Nel a'r teulu'n cael gwyliau gwersylla sy'n arwain at hwyl, drygioni a thipyn o strach!

'Mae'r stori wedi ei seilio ar fy mhrofiad fy hun o wyliau gwersylla llynedd,' meddai Meleri. 'Ond mae yna elfennau ychwanegol yn stori Nel – fel buwch swnllyd, bwced hudol ac eliffant!

'Gallaf uniaethu â theitl y llyfr hefyd. Mae gen i ddau o blant fy hun, dwy o gathod (a gŵr) – ddim o reidrwydd yn y drefn yna! Dwi'n gweithio fel golygydd ac yn trio sgwennu tamaid bach. Heb sôn am geisio cymryd sylw o beth sy'n digwydd yn y byd tu hwnt.

'Dwi'n siŵr nad fi yw'r unig un sy'n teimlo bod amser yn brin. Felly mae yna elfennau i rieni uniaethu â nhw a'u mwynhau hefyd!' ychwanegodd Meleri.

Mae'r gyfres wedi'i hanelu at ddarllenwyr 6–8 oed ac mae Meleri wedi teithio llawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ymweld ag ysgolion a gwyliau ar hyd a lled Cymru. Cafodd ei hysbrydoli gan straeon y plant gan ganmol eu creadigrwydd.

'Mae plant yn ddoniol iawn, mewn ffordd gwbwl naturiol,' meddai Meleri, 'ac yn llawn dychymyg a syniadau gwych!'

Ond y brif flaenoriaeth iddi hi fel awdures yw bod plant yn cael pleser o ddarllen.

'Y peth pwysicaf i mi yw bod plant yn mwynhau darllen,' meddai Meleri, 'Dwi eisiau iddyn nhw feddwl am ddarllen llyfrau Na, Nel! fel rhywbeth i'w wneud er boddhad a hwyl!

'Hoffen i weld plant yn enjoio darllen yn y lolfa, yn yr ardd, ar y traeth – ble bynnag a phryd bynnag mae'r awydd yn cydio, ac nid yn yr ysgol a chyn gwely yn unig,' ychwanegodd hi.

Ond does dim dwywaith fod cyfres Na, Nel! yn plesio darllenwyr ifanc Cymru fel y mae dyfyniad Lleucu Tryfan, wyth oed, ar glawr ôl y llyfr yn tystio, 'Mi wnes i chwerthin a chwerthin dros y lle nes i bawb ddweud wrtha i am fod yn dawel!' meddai hi.

Mae lluniau deniadol John Lund hefyd yn rhan bwysig o'r hyn sy'n dod â Nel yn fyw.

Mae Na, Nel! wedi profi'n boblogaidd tu hwnt gyda phlant Cymru ac mae'r gyfres yn llwyddiant ysgubol. Fe werthodd y llyfr stori diwethaf, Na, Nel! – Ha, ha! dros fil o gopïau.

Dyma'r pumed llyfr ac mae Meleri eisoes yn casglu syniadau ar gyfer y nesaf fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn y Nadolig eleni.

Ond mae Meleri'n cyfaddef, 'Dwi wedi cael fy synnu gan lwyddiant Na, Nel! Mae'r llyfrau'n dangos bod yna awch am lyfrau gwreiddiol Cymraeg a Chymreig i blant.

'Pan fydda i'n mynd o gwmpas ysgolion a gwyliau byddai'n dangos nofel gyntaf Enid Blyton iddyn nhw wedi ei lofnodi i fy mam gan yr awdures ei hun.

'Cyn Nadolig, roedd Enid Blyton yn rhif dau siart Gwerthwyr Gorau Gwales. Ond chi'n gwybod pwy oedd yn rhif un? Ie, Nel! Roedd hynny'n dipyn o syrpreis!'

Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys Dyddiadur Nel – cyfle i blant ysgrifennu eu cyfrinachau i gyd ac i rannu jôcs, lluniau a direidi Nel. Mae gwefan swyddogol Nel ar gael bellach hefyd, www.nanel.co.uk.

Bydd Meleri Wyn James yn darllen straeon newydd o lyfr newydd Na, Nel! – Aaaa! yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ddydd Llun y 1af am 2 o'r gloch a dydd Sadwrn y 6ed am 1 o'r gloch ar Stondin Gŵyl Llên Plant.