Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Torri tir newydd ym myd y nofel Gymraeg?

Mae nofel newydd a gyhoeddir yr wythnos hon yn 'torri tir newydd ym myd y nofel Gymraeg' yn ôl y llenor Tony Bianchi.

'Mae'n waith gwreiddiol a hynod ddyfeisgar,' meddai Tony Bianchi wrth ganmol y nofel newydd Tri Deg Tri gan Euron Griffith, 'Dyma nofel lawn dirgelion a rhyfeddodau. Mae'r stori'n gwneud i chi chwerthin ac yna arswydo at y cyflwr dynol.'

Dilyna Tri Deg Tri hanes Meirion Fôn, pedwar deg rhywbeth. Mae'n ddyn gwylaidd, go gyffredin sy'n gweithio'n galed i gadw'i fam gegog mewn cartref henoed moethus. Ond bob hyn a hyn mae'n derbyn amlen sy'n mynd ag ef ar anturiaethau ar draws y byd, a hynny yn sgil ei waith fel hitman. Ac un diwrnod mae'n cael amlen newydd… rhif Tri Deg Tri… ac mae'n wynebu sialens fwyaf ei fywyd.

Ond ai Meirion sy'n gyfrifol am dynged pob un mae'n ei ladd? A beth yw'r gyfrinach dywyll o'r gorffennol sy'n effeithio ar ei ddyfodol?

Fe aiff y nofel â'r darllenydd ar deithiau byd-eang – o olygfeydd trawiadol yn Siapan a'r Arctig, i frwydrau dirdynnol yn nhalaith Helmand ac yn ôl i'r cartref hen bobl ym Mangor gyfarwydd yng ngogledd Cymru.

Cafodd Euron Griffith ganmoliaeth uchel gan feirniaid a darllenwyr am ei ddwy nofel gyntaf, Dyn Pob Un a Leni Tiwdor. Yn gyflwynydd, cynhyrchydd ac ymchwilydd ar raglenni teledu a radio, daw Euron o Fangor yn wreiddiol, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae ei arddull wedi cael ei gymharu ag awduron megis Nick Hornby gyda nifer yn canmol ei ddawn i ddweud stori dda am griw brith o gymeriadau.

'Mae'r nofel hon yn wahanol i'r ddwy arall,' eglurodd Euron, 'Mae elfennau o gomedi a thriller ynddi ond eto dwi'n gobeithio fod hon yn nofel ddynol, deimladwy ac yn ffraeth ar adegau hefyd!'

Wrth drafod y cefndir tu ôl i'r nofel, meddai Euron,

'Mi oedd fel petai yna law arall wrth y cyfrifiadur… llaw gyda bysedd chwareus oedd wastad yn fy arwain i lefydd tywyll ac anarferol,' meddai, 'i lefydd doeddwn i ddim wedi rhagweld.'

'Fe ysgrifennodd yr arlunydd Paul Klee unwaith fod ei waith yn debyg i fynd â llinell “am dro” a dyna yr union deimlad ges i wrth ysgrifennu'r nofel hon,' eglurodd Euron.

'Ces gymaint o flas ar y nofel, mae bywyd wedi mynd braidd yn llwm ers ei chwpla!' ychwanegodd Tony Bianchi.

Bydd Tri Deg Tri gan Euron Griffith yn Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer mis Hydref.