Adolygiadau
Does dim dwywaith y bydd y casgliad hwn o lythyrau gan bobl sy'n gwella o iselder yn rhoi cysur i'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl ar hyn o bryd. Mae'r bobl sy'n ysgrifennu'r llythyrau hyn yn disgrifio iselder mewn ffordd sy'n unigryw i rai sydd wedi'i oroesi. Mae'r geiriau'n ddilys a byddant yn rhoi gobaith ac anogaeth i'r rhai sy'n eu darllen.
- Douglas Bloch MA, awdur Healing from Depression: 12 Weeks to a Better Mood
Llythyrau pwerus gan bobl sydd wedi bod yno ac sy'n gwybod o brofiad na fyddwch chi'n teimlo fel hyn am byth. Gallai un llythyr sy'n taro tant gwirioneddol gyda chi wneud byd o wahaniaeth.
- Claudia Hammond, darlledwraig ac awdur
Mae hwn yn brosiect gwych. Pan oeddwn i'n dioddef o iselder difrifol am y tro cyntaf, credu bod gwella'n amhosib oedd un o'r rhwystrau mawr i oroesi – ac i fy adferiad. Gofynnais i fy meddyg a allai fy rhoi mewn cysylltiad â phobl oedd wedi gwella, fel y gallwn i gredu yn hynny – ond doedd e ddim yn gallu a wnaeth e ddim chwaith. Dwi'n credu y byddai gwybod bod gwella'n bosib wedi gwneud byd o wahaniaeth imi oherwydd, fel y dywedodd Oscar Wilde, 'despair has no seasons' – hynny yw, mae'n ddi-baid. Gallaf gymeradwyo'r llyfr hwn yn llwyr i unrhyw un sy'n dioddef o iselder. Mae'n cynnwys negeseuon o obaith o'r ochr dywyll, cred resymegol i frwydro yn erbyn y diffyg ffydd mae pawb ag iselder yn ei deimlo. Heb os mae grym gan Llythyrau Adferiad i achub bywydau
- Tim Lott, newyddiadurwr ac awdur
Bydd y llyfr hwn yn achub bywydau, a phrin yw'r llyfrau y gellir dweud hynny amdanyn nhw. Mae ysgrifennu neu ddarllen llythyr yn brwydro yn erbyn y teimlad o unigedd sydd wrth wraidd anobaith. Darllenwch y llyfr hwn, prynwch e i bobl eraill; mae'n feddyginiaeth brin a phwerus.
- Gwyneth Lewis, awdur Sunbathing in the Rain:
Mae'r llythyrau hyn yn llawn cyfeillgarwch ac agosatrwydd. Drwy eich tynnu o'ch cragen, byddan nhw yn eich helpu i rannu'r boen, i brofi'ch safbwynt ac i ddatrys problemau. Mae modd gwella o iselder a choeliwch chi fi, byddwch chi ganwaith gwell o'r herwydd: yn fwy meddylgar, yn fwy derbyngar, a daw heddwch i'ch rhan.
- Dr Neel Burton, awdur Growing from Depression
Roedd y llythyrau yn gymaint o help i mi pan oeddwn i'n sâl; un o'r pethau prin a gyffyrddodd â mi ar draws y gwagle.
- Charlotte Garrett, seicolegydd ymchwil
Teimladwy, hardd mewn mannau a gwerthfawr: mewn byd lle mae triniaeth effeithiol ar gyfer y rhai â salwch meddwl mor anodd ei chael ag erioed, mae gan y llyfr hwn rywbeth eithaf pwysig i'w gynnig. Yn anad dim, mae angen sicrhau'r sawl sy'n dioddef o iselder bod adferiad yn bosib. Mae'r llythyrau hyn gan gyd-deithwyr yn dangos ei bod yn fwy na phosib, ond yn debygol, nad ydych chi ar eich pen eich hun, bod eraill wedi bod yma, wedi goroesi, wedi gwella, wedi ailymuno â'u bywydau. Eu neges: gallwch chi wneud hynny hefyd.
- Mark Rice-Oxley, awdur Underneath the Lemon Tree:A Memoir of Depression and Recovery