Mae'r ymadrodd Ci Du wedi dod yn enw arall ar y clefyd sy'n taro miliynau o bobl, a nifer o'r rheini'n dioddef yn ddistaw ac mewn cywilydd. Winston Churchill a wnaeth yr enw'n boblogaidd, wrth ddisgrifio'r pyliau difrifol o iselder a fu'n rhan mor fawr o'i fywyd.
Yn Roedd Gen i Gi Du mae Matthew Johnstone yn rhoi cipolwg teimladwy ar y profiad o fyw gyda Chi Du, gan ein goleuo a'n hysbrydoli yn y pen draw. Mae'n darlunio hefyd y nerth a'r anogaeth sydd ynom ni ac o'n cwmpas ni i ddofi'r Ci Du. Gall fod yn anghenfil arswydus ond y cam cyntaf tuag at wella yw peidio â'i guddio.
Mae sawl brid gwahanol o Gi Du yn effeithio ar filiynau o bobl o bob lliw a llun. Mwngrel sy'n trin pawb yr un fath – dyna'r Ci Du.
Rhaid i unrhyw un sydd erioed wedi cael Ci Du, neu sy'n adnabod rhywun â Chi Du, ddarllen y llyfr hwn, sy'n llawn lluniau trawiadol ac yn ysbrydoliaeth i bawb.