Y Ferch Fach yn y Gwresogydd
Mam, Alzheimer a Fi
Stori dorcalonnus a dyrchafol yn y diwedd, am gariad, colled a theulu. Mae mam Martin Slevin yn un weithgar a thu hwnt o annibynnol sy'n rhedeg ei busnes ei hun, ac nid yw'n cymryd unrhyw lol gan Martin a'i dad. Ond ar ôl i'w gŵr hi farw, mae popeth yn mynd ar chwâl, ac mae'n mynd yn llesg ac yn anghofus. Ymhen amser, mae hi'n cael diagnosis o glefyd Alzheimer...