Rhaid i Elain, cyflwynwraig deledu lwyddiannus sydd wedi hen ymgartrefu yng Nghaerdydd, fynd yn ôl i'w phentre genedigol ym Môn i baratoi stori am hen gapten y bad achub lleol. Ond wrth iddi gael ei gorfodi i dwrio yn yr hyn a fu, daw llawer iawn mwy i'r wyneb nag a ddisgwyliai. Dyma nofel afaelgar, garlamus, sy'n delio â themâu oesol fel tyndra rhwng rhieni a phlant, rhwng y Cymry a'r Saeson, a rhwng ddoe a heddiw. Yn ganolbwynt i'r cyfan, mae stori garu rymus, ond carwriaeth sy'n rhwym wrth y gorffennol yw honno hefyd, ac fel pob rhan o daith Elain yn ôl i Fôn, mae iddi ei rhwystredigaethau a'i chyfrinachau. Daeth y nofel hon yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2003.