Cyffuriau, blacmel, rhyw, cariad, malais, dial, dau deulu'n cydblethu, perthnasau'n chwalu, marwolaeth...
Rhian Preis (athrawes):
"Does ganddi hi ddim clem sut i drin dyn. Na sut i drin dosbarth, chwaith!"
Dyl Bach, Blwyddyn Deg:
"Titshyrs yn crap. Wel, heblaw am y boi Welsh. Mae o'n oce."
Griff Welsh:
"Fedra i ddim diodda dod yma bob dydd, ei weld o, gweithio hefo fo - nid a finna'n teimlo fel ydw i tuag ato fo."
Beca:
"Byddai'r heddlu'n deall, yn enwedig pan fasen nhw'n gweld y llun..."
Griff:
"Llygad Seiclops o leuad yn grwn yn nhalcen y byd. Fedrwn i ddim dianc rhagddi..."
Cawn dreiddio i feddwl cymeriadau cryf a chredadwy yn y nofel hon, a phob un yn cuddio rhyw ddirgelwch a allai effeithio ar eraill.
Does neb yn berffaith. Mae isio deryn glan i ganu. Mae adar glan yn bethau prin.