Fe ddylai David Beresford fod wedi gwrando llai ar ei fam a mwy ar ei wraig. Cafodd ddigon o gyfle i ddifaru wedyn, mae hynny'n sicr. Ond eto, wedi i Eleri ei adael, ymddengys fod ffawd yn gwenu ar David wedi'r cwbl: dyma landio swydd prifathro iddo'i hun, a chael gwraig ifanc, ddel ar yr un pryd - bron yn rhan o'r fargen. Ond er mor hyfryd yw Siwan Lloyd, merch ei mam ydyw, ac mae gan Rona Lloyd ei chynlluniau ei hun. Bu'r ddawn ganddi wastad i fynd dan groen pobl ddiniwed, a throi eu dyheadau hwy i'w melin ei hun. Efallai mai Eleri yw'r un lwcus mewn gwirionedd, yn troedio llwybr dieithr ond yn dysgu o'r newydd sut i ymddiried a rhannu, sut i dderbyn caredigrwydd a chymryd gofal ohoni ei hun. Does ond gobeithio na ddaw cymylau duon unwaith eto i amharu ar ei dedwyddwch.