'Ychydig iawn, iawn o bobl sy'n gwybod am Fryn Arth. Ychydig iawn o bobl arbennig - fel ti! Ond paid a sôn gair wrth neb, na wnei?
Yma mae eirth bach rhyfeddol yn siarad ac yn symud... ac yn gyrru lorïau coch a gwyn! Mae pob diwrnod yn antur i yrrwyr Edwyn Bêr a'i Fab, yn enwedig wrth i jiráff ddianc o sw! Ond beth wnân nhw pan fydd Carnifal Bryn Arth mewn perygl o gael ei ohirio? A fydd Edwyn Bêr a'i weithwyr yn llwyddo i achub y dydd unwaith eto?