Cymeriadau: Helen, Cet a Siws
Oed: 14
Diddordebau: Sgwrsio ar y we
Hoff beth: Gruff Jones,secs god
Cas beth: Lisa Legs Lloyd
Problem: Rhywun dieithr wedi troi mewn i'r stafell. Rhywun sy'n gwybod llawer gormod amdanyn nhw - pethau personol.....
Nofel i ddarllenwyr yn eu harddegau, yn ymwneud â'r wê. Cawn hanes tair ffrind, Helen, Cet a Siws, sy'n 14 mlwydd oed ac yn mynychu Ysgol y Fran. Daw helynt ar eu traws o wybod i rywun dieithr dorri mewn i'w stafell gan ddod o hyd i wybodaeth bersonol amdanynt. Nofel llawn cyffro yn y gyfres Whap! Pwy sy 'na? A sut mae cael gwared ohono? Ar Restr Fer Tir na n-Og 2006 ar gyfer y categori uwchradd Cymraeg.