I rai o drigolion Aberllechi, y peth gwaethaf all ddigwydd yw eira ar ddydd Nadolig. Wrth i'r awyr dywyllu mae melltith hen sipsi yn glir eu cof.
Doedd Caren ddim yn credu mewn ysbrydion. Tan eleni. Tan iddi hi a Lois ac Ifor gael eu dychryn gan - gan beth?
Pwy sy'n gwybod yr ateb? Ows bach neu Marc sy'n mynnu mynd â'u teuluoedd ymhell bell i'r Bahamas neu Fflorida lle na fydd yr un bluen wen yn disgyn byth? Anna, perchennog y siop lyfrau ail-law? Neu John Gawi sy'n ymddangos yn annisgwyl bob hyn a hyn gan bwyntio at yr awyr yn fygythiol.
Beth yw'r oglau llosgi ffiaidd sy'n ddigon i droi eich stumog? Beth sydd yn llechu yn y cysgodion? Ac yn fwy na dim, beth maen nhw wedi'i neud i haeddu hyn?