'Wyt ti'n gwybod pa ddyddiad yw hi fory? Byrddydd gaeaf. Diwrnod byrra'r flwyddyn. A'r nos hiraf. Mae'n rhaid i ni gyd fod yn ofalus dros ben. Beth bynnag ddigwyddith, peidiwch chi â mynd mas ar ôl iddi nosi...' Wedi i Wyn a'i deulu symud i fyw at Mam-gu yn nhref Ffynnon Oer, daw i sylweddoli'n sydyn iawn nad yw popeth fel y dylai fod. Mae rhywbeth rhyfedd yn y gwynt, fel y ceisia Elin, ei ffrind newydd, egluro wrtho. A niwl trwchus yn cau ei grafangau'n dynn am bawb a phopeth, a fydd Wyn a'i deulu'n ddiogel yn eu cartref newydd neu a fydd cyfrinachau Ffynnon Oer yn ormod iddyn nhw i gyd?
Nofel antur iasol a gwirioneddol afaelgar gan yr awdur newydd Gerrard Morgan sy'n cynnwys digon o ddirgelwch i ddeffro chwilfrydedd unrhyw blentyn.