'Y cyfan dw i'n wybod yw fod rhywbeth rhyfedd yn digwydd i mi weithiau pan wy'n barod i saethu o flaen y gôl yma. Mae fel tase rhywbeth yn gafael yn 'y nhroed i!'
Ond tybed oes yna reswm arall i egluro rhai o brofiadau rhyfedd Michael Reed, y pêl-droediwr amryddawn, yn y parc?
Drwy lwc, mae Tom, ei gyfaill o reffarî, yn awyddus i ganfod atebion. Wrth ddychwelyd i'r parc yn hwyr un noson, mae hwnnw'n dechrau ar antur fwyaf cyffrous ei fywyd...
Nofel gyntaf drawiadol a gafaelgar y cyflwynydd teledu a'r diddanwr adnabyddus, Martyn Geraint.