Hugh Griffith
Cofiant i'r actor ffilm a llwyfan byd-enwog Hugh Griffith, o Farian-glas, Ynys Môn. Gan ddefnyddio llythyrau, adolygiadau, dyddiaduron a lluniau unigryw o archif personol y teulu fe'n tywysir trwy gyfrwng geiriau a llais yr actor ei hun o Angorfa, Marian-glas, i lwyfannau Stratford, y West End ac i setiau ffilm Hollywood lle cipiodd wobr Oscar.