Mae Siân Phillips yn un o actorion mwyaf eiconig Cymru erioed. A hithau newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed, dyma gyfrol fyrlymus a difyr sy'n cofnodi ei gyrfa a'i bywyd - y ddau fel ei gilydd yn amrywiol ac yn llawn drama.
O'i magwraeth Gymraeg yng Ngwauncaegurwen i lwyfannau Llundain, Stratford ac Efrog Newydd, heibio i gyfresi teledu cofiadwy fel 'How Green was my Valley' ac 'I, Claudius' a ffilm gwlt 'Dune', mae'r gyfrol hon yn mynd â ni ar daith drwy fywyd Siân, gan godi cwr y llen ar y person y tu ôl i'r cymeriadau.
Cawn ddarllen am ei pherthynas anodd â'i mam ac am ei bywyd carwriaethol lliwgar - gan gynnwys ei phriodas gythryblus â'r actor Peter O'Toole - a dechrau deall yr ysfa gynhenid sydd ynddi i actio. A phwy well i'n tywys drwy'r hanesion na Hywel Gwynfryn, darlledwr ac ysgrifennwr sydd wedi dilyn gyrfa Siân ers iddo ei gweld gyntaf ar lwyfan Neuadd y Dref, Llangefni yn y 1950au?