Roedd David Lloyd yn un o gantorion mwyaf disglair ac adnabyddus Cymru yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Tyrrai miloedd o bobl i'w weld yn perfformio, ac roedd 'melys lais' yr hogyn o Drelogan yn gyfarwydd drwy Gymru, Lloegr ac Ewrop. Ond pan gafodd ddamwain gas yn 1954, roedd cryn amheuaeth a ddeuai fyth yn ei ol i'r llwyfan. Felly beth fu ei hanes? Ydy hi'n wir fod David Lloyd wedi derbyn cytundeb gan gwmni opera'r Metropolitan yn Efrog Newydd yn y 1930au? A aeth i ganu ar lwyfan Glyndebourne heb gael clyweliad, hyd yn oed? A pha fath o ddyn oedd y tu ôl i'r llais? Ceir yr atebion i gyd a llawer mwy, yn y cofiant difyr a dadlennol hwn. Mae Hywel Gwynfryn wedi archwilio casgliad llythyron David Lloyd, ynghyd â sgwrsio'n helaeth â Don Lloyd, nai David, er mwyn cyflwyno cipolwg unigryw i ni ar y tenor o fri a gipiodd galonnau Cymru â'i wedd olygus a'i lais cyfareddol. Mae yma hefyd doraeth o luniau sydd heb eu gweld yn gyhoeddus o'r blaen.