Ergydiwr Cyndyn. Puteiniaid. Pimpiaid. Angylion Uffern. Dynion Drwg. Cerddor Enwoca'r Eidal. Heddlu Llwgr. Garddwyr. Perlysiau. Tomatos. Tatoos. Brad. Dial. Stori Serch.
Croeso i'r Ergyd Olaf, trydedd nofel Llwyd Owen, awdur Llyfr y Flwyddyn 2007!
Taith bywyd Al Bach (a.k.a. Tubbs) yw asgwrn cefn Yr Ergyd Olaf - o'i blentyndod truenus yn Abertawe o dan adain glipiedig Foxy, ei butain o fam, a Calvin, ei deyrn o dad. Fe'i dilynwn drwy ei lencyndod yng nghwmni T-Bone, pennaeth cangen Angylion Uffern Caerdydd. O dan reolaeth dwyllodrus hwnnw, daw i gael gyrfa hwyrfrydig fel ergydiwr, nes gorfod wynebu un frwydr dyngedfenol sy'n newid ei fywyd yn llwyr.