Doedd dim angen gwn arno. Doedd dim angen arf o unrhyw fath a dweud y gwir. Fe oedd yr arf ac roedd e'n barod i ffrwydro.
Yn y dyfodol agos, mewn gwlad debyg iawn i'r Gymru gyfoes, mae'r Ditectif Sally Morris a'i phartner gwaith, Tej Williams, ar drywydd lladron cŵn manteisgar sydd wedi bod yn codi cywilydd ar Heddlu Gerddi Hwyan ers misoedd lawer.
Tra bod y ditectifs yn cwrso'u cynffonnau, mae Hels, gyrrwr tacsi lleol, yn ceisio plesio pawb; y dynion yn ei bywyd, ei chwsmeriaid a'i chymydog bregus, Marie.
Ond, yn ddiarwybod i'r ddwy, mae bwystfil yn llech-hela strydoedd y dref, yn gloddesta ar gysgodion. Gyda'r cloc yn tician a Dydd y Farn yn agosau, does dim dianc rhag ei grafangau. Mae'r Helfa ar y gorwel, ac mae Sally a Hels ar y gach-restr.