Adolygiadau
Taith afaelgar drwy'r cysgodion at gyfrinachau tywyllaf Gerddi Hwyan. Gwaed, dial a throsedd - does neb yn fwy noir na Llwyd Owen.
- Alun Davies
Ym mydysawd llenyddol Llwyd Owen, mae trawma dwfn i'w ganfod nid yn unig ym mywydau'r rhai ar y ddwy ochr i'r llinell las, ond yn torri fel cyllell trwy ddiwylliant cyfan.
- Casi Dylan
Clyfrwch y stori heb amheuaeth yw ei diweddglo sy'n gwneud i ni gwestiynu pawb a phopeth – unwaith yn rhagor. Yn syml, mae hi'n stori dda, gyda'r troadau'n igam-ogamu'r meddwl, gan ein gorfodi i weithio fel y ditectifs, ac ymweld drachefn â charthffosydd cêl a thywyllaf ein cymdeithas, gan na allwn beidio â tharo cipolwg ar yr hyn y dylem, a'r hyn yr ydym, yn ffieiddio ato. Da y dywedodd Alun Davies ar froliant y llyfr – 'Does neb yn fwy noir na Llwyd Owen.'
- Buddug Roberts, Blog Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor
... fe gawn gan Llwyd Owen Gymraeg dinesig yr unfed ganrif ar hugain. Nid yn unig hynny, ond mae ganddo ddawn dweud stori sy'n deilwng o awdur y Mabinogi.
- Dafydd Morgan Lewis, Cylchgrawn Barn
Mae Llwyd Owen wedi'i gwneud hi eto! Nofel dditectif amhosib ei rhoi i lawr! Darllenwch hi
- Owain Sion, Trydar
Does dim dwywaith mai merched yw sêr y nofel hon – mae Sally yn amlwg yn gymeriad cryf a galluog, ond mae'r portread o gyfeillgarwch agos Magi a Cadella yn un gofalus a sylwgar...
- Mared Llywelyn, Y Cymro