Dyn digon cyffredin yn byw bywyd digon cyffredin yw Ifan Roberts. Mae ganddo swydd dda, mae'n weithgar yn ei gymuned a'i gapel, a'i deulu - yn enwedig yr wyrion - yw cannwyll ei lygaid. Mae'n wir nad ydi o ddim yn hoff o fynd ar wyliau, ond, ym mis Medi 2004, mae'n cytuno i ildio er mwyn bodloni dyhead Bethan, ei wraig.
Ond mae'r gwyliau ymlaciol i Alpau Ffrainc yn troi'n hunllef wrth i Ifan gael profiad ysgytwol yn yr eglwys leol, profiad goruwchnaturiol sy'n newid ei fyd bach ef ac, yn wir, allai newid hanes y byd mawr hefyd, am byth. Mae neges chwyldroadol i'w chyhoeddi, a gŵyr Ifan Roberts mai ef yn unig yw'r un all fod yn gyfrifol am y diwygiad a ddaw yn sgil yr hyn a ddysgodd yn eglwys La Clusaz.
Ond beth yw'r gwir? A oes grym uwch yn gyrru'r nerthol wynt yn La Clusaz ynteu ai ynfytyn wedi cael gormod o haul yw Ifan? Ac a fydd pobl yn barod i wrando ar ei neges? A ydyn nhw eisiau diwygiad mewn gwirionedd?
Gan mlynedd wedi Diwygiad Evan Roberts 1904-05, dyma nofel gyffrous, amserol, bryfoclyd fydd yn sicr o wneud i chi feddwl.