Ni all unrhyw un newid ei orffennol ond fe all geisio dygymod â'i bresennol . . .
Gŵr y mae ei orffennol wedi effeithio'n fawr arno yw Meilir Parry sy'n byw dan ofal mewn sefydliad, ond i Trefor Puw, y newyddiadurwr sy'n methu ymddeol, mae'n stori dda.
Bob yn dipyn llwydda Trefor i gloddio i orffennol tywyll Meilir a'i gael i ddadlennu cryn dipyn am ei blentyndod. Ond wrth ddatod llinynnau'r gorffennol hwnnw plethir bywydau'r ddau ddyn mewn modd annisgwyl.
Yn Ar Ddannedd y Plant llwyddodd Elfyn Pritchard lunio nofel afaelgar sy'n darlunio effaith ein magwraeth a'n plentyndod arnom.