Mae Eirwyn, athro Saesneg, canol oed sy'n briod ers blynyddoedd â Cissie, yn teithio adref o'i waith yn ei gar un nos Wener wlyb, gan deimlo fod 'symudiad cyson y llafnau yn ddarlun perffaith o'i fywyd o...Dim cynyrfiadau mawr, dim byd i dorri ar esmwythyd arferol bywyd, ar rythmau cyson byw a bod. Dim rhuthro gwirion chwaith, pob symudiad dan reolaeth, pob gweithgaredd a gweithgarwch o fewn terfynau'. Ond wrth i Eirwyn gyfarfod â Gwen Carter, mae pethau'n newid am byth...Twyll, hen thema oesol, sy'n sail i'r nofel hon, ond pwy, yn y pen draw, sy'n twyllo pwy?