Mae pethau'n edrych yn ddu ar Dafydd. Daeth yn enwog fel gohebydd ar bapur newydd The Times yn Llundain, ond llithrodd y cyfan trwy ei ddwylo. Bellach mae nôl yng ngogledd Cymru, yn gweithio ar bapur lleol, i fos y mae'n ei gasau. Mae mewn dyled, ar fin colli ei swydd, a'i gariad. Ac mae'n yfed gormod. Yna, mae Dafydd yn baglu dros stori frawychus sy'n cynnig cyfle iddo ddianc o'r twll y mae ynddo. Nid damwain achosodd farwolaeth sinistr y corff ar y rheilffordd. Ac nid yw'n credu am funud mai lladd ei hunan wnaeth ei ffrind. Rhaid i Dafydd ddatrys y dirgelwch sydd wrth wraidd y stori er mwyn achub ei groen ei hun - ond am ba bris?