Mae Dafydd Smith mewn cell, wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar am lofruddio'i gariad. Aeth ei fywyd ar chwâl i gyd ond, gyda chyn lleied i'w golli, nid yw Dafydd yn fodlon derbyn y bai am drosedd rhywun arall, yn enwedig tra bod y llofrudd go iawn yn dal â'i draed yn rhydd.
Ond am ba hyd? Wrth i'r rhwyd gau am Louis Cypher, y Casglwr Dieflig, pwy fydd yn llwyddo i'w ddal gyntaf? Ai'r eithafwyr Ffasgaidd sydd eisiau defnyddio'r Casglwr, a'i gyfrinach iasol, i'w dibenion terfysgol eu hunain? Ai MI5, o dan arweiniad y Cyrnol a hen 'ffrind' Dafydd, y Lladdwr? Ynteu Dafydd ei hun, sy'n fodlon aberthu popeth dros y gwir? Beth yw gwir werth rhyddid, a phwy sy'n fodlon talu'r pris?
Dyma'r drydedd - a'r olaf - o nofelau Llion Iwan am Dafydd Smith, a dilyniant i Casglwr a Lladdwr.