Yng nghysgod mynyddoedd yr Hindu Kush mae teulu'r bugail ifanc Hani yn ofni bod storm ar gyrraedd. Draw yn anialwch Saudi Arabia mae Jon, peilot Americanaidd, yn dioddef hunllefau yn sgil y cyrchoedd bomio. Mae llwybrau'r ddau ar fin croesi, gan chwalu dau fyd am byth. Oes gobaith i Hani wrth iddo gael ei annog i fynd yn hunan-fomiwr? A fydd cydwybod peilot yr Awyrlu'n ei achub - ynteu'n ei ddinistrio? A beth am dynged teulu Hani yn y dref ger y tro yn yr afon? Dyma nofel afaelgar a grymus am fywydau'r bobl gyffredin sy'n cael eu chwalu gan ryfel - y rhai anweledig.
"Nofel afaelgar, amrywiol ei thymer sy'n cynnwys disgrifiadau dirdynnol a graffig o ryfel am yn ail â darluniau tyner a dynol o'r trueiniaid a ddaliwyd yn ei ganol. Mae arni ôl ymchwil anymwthgar ac adnabyddiaeth sicr o'r arferion nomadaidd a'r dulliau milwrol a ddisgrifir. Dyma waith creadigol sy'n gwneud i'r Gymraeg edrych i fyw llygad y byd sydd ohoni; byd Bin Laden yn y dwyrain a Bush yn y gorllewin, byd Hani'r hunanfomiwr yn Dubai a Jon y milwr yn Washington drannoeth 9/11 ac yn nyddiau'r 'Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth'. Mewn gair, dyma ychwanegiad cyfoes a phwerus at genre llenyddiaeth rhyfel yn y Gymraeg."
Yr Athro Gerwyn Williams
"Dyma awdur profiadol, sy'n deall adeiladwaith a strwythur nofel i'r dim
. Dechreua'r stori â phennod sy'n cydio sylw'r darllenydd ar unwaith, gyda Hani'n cerdded trwy strydoedd Dubai a bom yn wregys iddo. O dipyn i beth yn ystod y gyfrol, down i ddeall beth sydd wedi dod ag ef i'r sefyllfa hon a beth sydd wedi achosi i Jon grwydro'n feddw mewn dinas ddieithr yn America. Y stori sy'n gyrru'r gyfrol; mae'r ysgrifennu'n syml a chlir, ac mae'r symylrwydd yn mynegi cyffro'r naratif. Rwy'n siŵr y bydd hon yn gyfrol boblogaidd iawn."
Catrin Beard
"Ni allaf feddwl am yr un nofel sylweddol Gymraeg a leolwyd dramor lle nad yw'r awdur wedi teimlo'r angen i roi iddi ryw ddolen gyswllt Gymreig naill ai trwy ei chyfeiriadaeth neu o leiaf un o'i chymeriadau. Gwnaeth Llion Iwan rywbeth prin, osn nad unigryw. Cymerodd gynfas rhyngwladol cyfoes a defnyddiodd y Gymraeg i adrodd ei stori heb deimlo'r angen i'w gyfiawnhau ei hun yn y modd hwn o gwbl. Mae'n awdur eofn ac uchelgeisiol a chreodd stori grefftus, epig ei rhychwant. Mae'r cyfan yn darllen fel crynodeb o ryw ffilm ryngwladol arfaethedig ag iddi gyllideb enfawr. Naill ai trwy brofiad neu o ganlyniad i ymchwil fanwl, gall yr awdur ymdrin â gweithdrefnau ac offer milwrol yr UD gyda chryn argyhoeddiad. Mae hefyd yn dallt y dalltings i'r dim parthed gwleidyddiaeth gweinyddiaeth Bush. Ar ben hynny, mae'n ymddangos iddo'i drwytho'i hun yn hanes ac arferion y gwahanol lwythau a phobloedd sy'n byw yn nhiroedd mynyddig anghysbell y rhan honno o'r byd. Yr hyn a gododd y nofel hon uwchlaw'r cyffredin i mi oedd ei hyder a'i chyfoesedd. Dyma awdur nad yw'n hiraethu am yr un 'ddoe na ddaw yn ôl' nac yn teimlo'r angen i wisgo'i weldigaeth â'r un ffantasi ffuantus. Iddo ef yr âi'r Fedal Ryddiaith eleni pe cawn i fy ffordd."
Aled Islwyn