Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Ceri Wyn Jones

Ceri Wyn Jones

Prifardd a chyn Fardd Plant Cymru (2004-5). Mae ei frwdfrydedd ynglŷn â chynnal gweithdai barddoni gyda phlant mewn ysgolion yn heintus. Ymddangosodd ei gyfrol llawn o farddoniaeth ar gyfer plant, Dwli o Ddifri, yn 2005, ac mae hefyd wedi cyfrannu at flodeugerddi eraill ar gyfer plant, yn cynnwys Byd Llawn Hud (Gomer, 2004), enillodd wobr Tir na n-Og. Cyhoeddodd Dauwynebog, ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth i oedolion, yn 2007. Wedi cyfnod fel athro, mae bellach yn gweithio fel golygydd ar lyfrau Saesneg i oedolion yng Ngwasg Gomer. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1997 a 2014 a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2009. Ef yw Meuryn Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru.

http://www.academi.org/rhestr-o-awduron/i/130386/

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Dau Mewn Cae

- Ceri Wyn Jones
£5.99

Santa Corn

- Ceri Wyn Jones
£5.99

Dauwynebog

- Ceri Wyn Jones
£7.99

Barti a Bel - Ar Goll Mewn Llyfr

- Suzanne Carpenter
(Cyfieithu: Ceri Wyn Jones)
£4.99 £2.00

Dwli o Ddifri

- Ceri Wyn Jones
£4.99

Ruck in the Muck

- Ceri Wyn Jones
£5.99