Byddai'n braf gan Ceri Wyn Jones wybod beth yw beth yn y byd. Byddai'n braf cael sicrwydd taw un ffordd iawn sydd, a bod modd dehongli a mynegi popeth yn ôl y sicrwydd hwnnw. Byddai'n braf cael meddu ar un wyneb yn unig. Yn Dauwynebog, mae'r bardd o Aberteifi'n archwilio'r gwrthdaro parhaus rhwng y mewnol a'r allanol, rhwng gweledigaeth ddyrchafol y galon a rheswm didostur yr ymennydd, a rhwng y dweud a'r gwneud. Dyma gyfrol sy'n llawn deuoliaeth, yn dathlu a diawlio cymhlethdod byw a bod ar ymyl sawl dibyn - yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, ac yn ysbrydol. O ganlyniad, dyma gasgliad sydd yn llawn gwrthgyferbyniadau trawiadol, o fewn cerddi unigol a rhwng y cerddi hynny. Bu'n ddeng mlynedd o newid byd ers i Ceri ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997. Fe briododd; fe fagodd deulu; fe newidiodd swydd. Drwy'r cyfan oll, bu'n ymarfer ei grefft fel bardd y canu caeth, o flaen cynulleidfaeoedd ledled y wlad, ond hefyd ynghudd wrth ei ddesg. Ffrwyth y canu cyhoeddus a'r canu preifat hwnnw yw'r gyfrol gyntaf hon o'i waith ar gyfer oedolion, cyfrol lle down i adnabod bardd y cannoedd lliwiau llwyd, yn hytrach na bardd y du a'r gwyn.