Ruck in the Muck
Llyfr stori-a-llun sy'n siŵr o apelio at gefnogwyr rygbi ifanc sy'n breuddwydio am gynrychioli eu gwlad. Dyma stori annwyl am ddau frawd gyda dychymyg byw! Y cae ger eu cartref yw Stadiwm y Mileniwm, cân y fwyalchen yw chwiban y dyfarnwr i ddechrau'r gêm a thwmpath y wahadden yw'r tî i osod y bel ar gyfer y trosiad tyngedfennol.