Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Sharon Morgan - Actores a Mam: Hunangofiant sy’n datgelu’r heriau sy’n gwynebu merched ym myd actio.

“The show must go on yw’r mantra. Mae’n well esgus eich bod chi’n ddi-blant, neu bod da chi fawr ddim diddordeb yn eich plant, a bod pobl eraill ar gael i’w gwarchod bedair awr ar hugain, saith niwrnod yr wythnos”

Mae’r gyfrol yn dechrau ym 1980, pan roedd hi’n disgwyl ei phlentyn cyntaf, Steffan. Yn benderfynol o barhau i actio, cawn glywed sut roedd hi’n jyglo dramâu radio yng Nghymru gyda gwaith teledu yn Lloegr, a chwarae ambell fam feichiog fel Mrs Ellis yn Coronation Street, gyda Elsie Tanner ac Ena Sharples.

Roedd y beichiogrwydd yn ddechrau ar gyfnod heriol fel actores, gyda’r diffyg cefnogaeth ymarferol ar y set, gorfod delio gyda’r newid siap a’r emosiynnau, a gorfod gwrthod cyfleoedd fel taith y Rocky Horror Show, a mynychu’r dosbarthiadau NCT yn lle!

Er gwaethaf yr heriau, y rhagfarn a’r jyglo, diolch i gefnogaeth ei Mam, dychwelodd Sharon i’r gwaith dau fis wedi geni Steffan. Symudodd o un swydd i’r llall, yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Lloegr ac yn parhau i fron fwydo am ddwy flynedd. Gyda’i pherthynas hi a Julian wedi dod i ben, a hithau’n fam sengl, roedd cefnogaeth ei Mam yn amhrisiadwy, ond doedd hi ddim yn hawdd;

 “Roedd Steffan yn torri dannedd a ddim yn cysgu. Ro’n i’n poeni am cradle cap, ac roedd fy mronnau’n engorged ac mewn perygl o ollwng llaeth trwy fy ngwisg ar set”.

Cawn ddysgu pa mor anodd yw cael gwaith actio ar ôl dod yn Fam, a pam mae’n credu’n gryf bod angen mwy o ferched wrth y llyw ym myd teledu a theatr. Cawn ddysgu sut roedd dod yn Fam wedi ei gwneud yn ffeminydd a sut roedd yn rhaid troi at y dôl i gynnal ei theulu;

“Bywyd llaw i’r gennau yw bywyd actor, ry’n ni’n dibynnu ar y budd-daliadau diweithdra rhwng y cyfnodau o waith, doedd dim cywilydd yn hynny”.

Er gwaethaf yr heriau, mae’r agwedd bositif yn treiddio trwy’r gyfrol, a magwraeth wledig y 50au wedi bod yn sail gadarn i lwyddiant. Yn ystod ei bywyd fel Mam mae Sharon Morgan wedi ymroi’n llwyr i sicrhau bod modd iddi gynnal ei theulu; gan weithio’n gyson ar hyd a lled Cymru a’r byd ac osgoi cael ei stereoteipio fel nifer o actoresau.

Yng nghanol yr heriau, mae digon o hiwmor a straeon doniol am y drygioni cefn llwyfan, y nosweithiau gwyllt a rhannu’r sgrin a’r llwyfan gyda nifer o sêr; Sian Phillips a Myfanwy Talog, Huw Ceredig a Martin Clunes, Dennis Lawson, Rhys Ifans, Ruth Jones ac Ian Rowlands; fu’n chwarae ei mab yn y gyfres ‘Anest’, ac a ddaeth yn Dad i Saran ei merch yn y 90au.

Cawn glywed sut roedd rhannu’r sgrin gyda Ronnie Barker yn y gyfres gomedi The Magnificent Evans yn hwb mawr i’w gyrfa ac yn gyfle i’w addysgu hefyd; “Byddwn i’n treulio oriau’n trafod gydag e, rhwng takes yn yr hen gar, ar ben mynyddoedd, ac wrth yfed wisgi yn y gwesty yn hwyr y nos, ac fe ddysgodd tipyn am safle’r fenyw, a hanes a diwylliant Cymru.”

Mae’n amlwg bod ymgyrchu dros hawliau merched a dros y Gymraeg yn rhan annatod ohoni. Cawn glywed sut byddai hi a Steffan yn mynd i brotestio, a sut roedd yn rhaid treulio diwrnod yng nghelloedd yr heddlu yng Nghaerdydd pan roedd Steffan yn 7 oed! Cawn glywed am yr ymgyrchu dros S4C cyn iddi gael plant, a sut roedd datblygiad y sianel wedi arwain at waith cyson, a gallu magu ei phlant ym Mhontcanna.

Un rhan a arweiniodd at sefydlogrwydd, oedd chwarae rhan Sylvia Bevan yn y gyfres Pobol y Cwm. Er gwaetha’r cyflog, doedd chwarae’r un cymeriad bob dydd ddim yn rhoi boddhad iddi, ac yn wahanol i sawl Mam, penderfynodd adael; “Ceryddias fy hun yn aml am fod mor ffôl a gadael Pobol y Cwm yn enwedig yn ystod cyfnodau ariannol anodd… pam na allwn fod wedi bodloni ar y drefn fel y gwnaeth mamau sengl eraill fel Siw Hughes, Sue Roderick a Iola Gregory”

Wedi geni Saran yn y 90au, daeth ei pherthynas hi ac Ian Rowlands i ben yn sydyn, a hithau nôl yn Fam sengl yn jyglo gyrfa, babi a mab oedd ar fin gwneud ei arholiadau;

 “Dyma gyfnod o rannu fy amser rhwng babi blwydd a disgybl TGAU, y newid o fwyd solid a’r gwaith cwrs, y dant cyntaf a’r adolygu, y pwyso a’r brechu a’r arholiadau, y camau cyntaf a’r canlyniadau”.

Daw’r gyfrol ddifyr i ben ym 1999, blwyddyn fawr pan enillodd BAFTA a cholli ei Mam. Wrth i iechyd ei Mam ddirywio, penderfynodd beidio derbyn cytundeb gwaith yn y BBC; “Roedd agwedd y BBC yn ddigon annymunol, fel petaen nhw’n methu deall pam fod fy mam yn bwysicach na gwaith”. Mae’n amlwg o’r gyfrol bod diffyg cefnogaeth i famau a merched yn parhau yn y diwydiant.

- Heulwen Davies, Llais Cymru 

Mae'r gyfrol Sharon Morgan: Actores a Mam ar gael nawr ar wefan y Lolfa (£9.99)