Poster newydd i hyrwyddo pwysigrwydd cadw enwau lleoedd Cymraeg
Yn dilyn y ddiddordeb mewn pwysigrwydd cadw enwau llefydd Cymraeg mae’r Lolfa a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru wedi cydweithio i gyhoeddi poster newydd sy’n cynnwys cerdd gan Twm Morys ar lun o Nant Ffrancon.
Mae neges gref i’r poster yn ymateb i sylw Iwan Llwyd fod yn gas ganddo dirlun heb bobol ynddo, gyda Twm Morys yn ysgrifennu mai ‘enwau o ben dynion fu ar hyd yr henfro hon... dagrau oer ar hyd y grudd yw’r meini ar y mynydd’
Meddai Ann Parry Owen ar ran Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru:
“Cychwynnodd y poster fel clawr ôl Enwau Cymru, cylchgrawn Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, lle byddwn yn ceisio priodi llun â cherdd i gyfleu’n gynnil bwysigrwydd llefydd a’u henwau i ni fel Cymry. Mae’r llun gwych hwn o Nant Ffrancon gan Richard Jones, a’r gerdd iasol gan Twm Morys, yn briodas berffaith.”
“Mae ateb Twm i eiriau Iwan Llwyd yn cyflwyno’r neges bod ein henwau lleoedd yn dangos sut y bu ein tirweddau’n llawn pobl erioed gan fod pob enw carreg, afon, neu fynydd yn enwau a gafodd eu creu gan ein cyndeidiau. Nid enwau hud mohonynt, ond enwau ‘o ben dynion / Fu ar hyd yr henfro hon’. A pho fwyaf yr edrychir ar y llun hwn, po fwyaf y gwelir ynddo olion ein cyndeidiau yn britho’r llechweddau.”
Mae’r llun ar y poster gan y ffotograffydd Richard Jones o ddyffryn Nantlle. Mae wedi bod yn rhannu ei luniau gwych ar Twitter yn ystod y cyfnod clo gan gael ymateb gwych.