Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel ddychanol 'hwyliog a gwahanol' gan yr awdur Cardi-noir Geraint Evans

 

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan yr awdur o Dalybont, Geraint Evans. Gyda chyfres o bum nofel ditectif yn dilyn Gareth Prior a’i dîm yn Heddlu Dyfed-Powys dan ei felt, mae Geraint Evans wedi mentro i fyd prifysgol ddychmygol, gan ysgrifennu’i nofel gampws gyntaf, Hergest.

“Roeddwn i wastad eisiau ysgrifennu nofel wedi’i lleoli mewn prifysgol oherwydd fy ngyrfa fel darlithydd – nofel gyda dos dda o ddychymyg wrth gwrs!”

Mae’r nofel yn un hwyliog a dychanol, ac yn cynnig cipolwg ar fyd addysg uwch yn y Gymru gyfoes.

“Daeth syniad y nofel o’r awch i ysgrifennu rhywbeth gwahanol, er mwyn cynnig mwy o ddewis i ddarllenwyr Cymraeg – nofelau ditectif yn gyntaf, a nawr hon. Yn ganolog i’r plot mae’r prif gymeriad yn cael ei osod mewn sefyllfa chwithig ac yn gorfod gwneud dewis anodd,” meddai Geraint.

Daw Rodrigo Lewis o Batagonia i dreulio blwyddyn breswyl ym Mhrifysgol Hergest Canolbarth Cymru. O linach y rhai a hwyliodd i sefydlu’r Wladfa, yn fardd ac yn chwaraewr rygbi i un o brif dimau ei wlad mae’n ymddangos fel dewis perffaith. Ond yn sgil cyfres o helyntion gan gynnwys tarfu ar ymweliad brenhinol mae arhosiad Rodrigo yn y fantol. Ond pan mae’n dod i wybod am gynlluniau cyfrinachol Prifathro Hergest i ddatblygu parc gwyliau ar dir cyfagos, mae hynny’n peryglu holl fodolaeth y Brifysgol.

Mae Hergest gan Geraint Evans ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).