Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel bwerus gyntaf yr actores adnabyddus Ffion Dafis

Yn dilyn ei chyfrol oedd yn cyfuno’r hunangofiannol gyda ffuglen, Syllu ar Walia’, yn 2017, mae’r actores amryddawn Ffion Dafis nawr wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf bwerus – Mori (Y Lolfa).

Disgrifiwyd y gyfrol gan y gantores Lleuwen Steffan fel “nofel gignoeth sy’n mynd dan groen ac yn treiddio i’r byw. Mae ynddi ystod emosiynol anarferol o eang sy’n parhau i swyno ymhell ar ôl y dudalen olaf. Eithriadol.”

Meddai Ffion Dafis:
“Ro’n i’n falch iawn i gael y cyfle i ysgrifennu’r nofel hon. Roeddwn i isio gweld sut brofiad fysa creu stori, ac yn wahanol i’r gyfrol Syllu ar Walia’ roedd yr her y tro yma i greu cyfanwaith a byd ar gyfer y cymeriadau. Roedd angori’r nofel mewn lle yn bwysig iawn i fi a gan fy mod wedi ysgrifennu’r rhan fwya ohoni yn Nolgellau yn ystod y cyfnod clo, mae tiroedd Meirionnydd – Llanfachreth a Dolgellau yn enwedig – yn rhan fawr ohoni. Rwy’n meddwl bod y teimlad ynysig brofais i yn ystod y cyfnod clo wedi treiddio drwy’r nofel, a’i lliwio hi.

“Ro’n i am ysgrifennu nofel dipyn yn wahanol a chreu gwrth-arwres mewn ffordd. A dyna ydi Morfudd – neu Mori – cymeriad difyr, gobeithio, ond gwahanol, cymeriad yr ymylon. Roedd hi’n eitha hawdd i greu cymeriad Morfudd, ond yr her oedd i gynnal y cymeriadau sy’n bodoli o’i chwmpas hi, ac mae’r nofel yn archwilio nifer o themâu – dial, cariad, casineb, nwyd, cenfigen, colled a phechod,” meddai Ffion.

Dyma nofel seicolegol gydag elfen gref o ddirgelwch sy’n mynd â ni o fyd diogel i fyd tywyll y we. Mae Mori yn olrhain cymeriad Morfudd, dynes sydd ddim yn deall pobl ac un nad ydi pobl wedi trio ei deall hi. Pan mae’n derbyn cais Facebook gan ferch ifanc sy’n byw ei bywyd ar y we, mae natur chwilfrydig Morfudd yn deffro. Wrth i’w hobsesiwn â’r ferch drydanol yma dyfu fe orfodir Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol. A fydd y clwyfau sy’n byw yn ei chrombil yn ei gyrru i le fydd yn sigo bydoedd y ddwy am byth?

Cafodd Syllu ar Walia’ ei chanmol gan feirniaid a darllenwyr, ac fe ddisgrifiwyd hi gan yr awdures Elin Llwyd Morgan fel cyfrol “fyrlymus a digyfaddawd o gignoeth”, elfennau sydd i’w gweld yn y nofel Mori hefyd.