Golwg dychanol a damniol ar fyd addysg uwch gan gyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Cymru
Mae’r cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Andrew Green yn awdur ers hanner canrif a mwy, ac yn gyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn (am Cymru mewn 100 Gwrthrych yn 2019). Mae ei nofel gyntaf, Rhwng y Silffoedd, yn mentro i fyd cyfnewidiol y brifysgol.
“O 1970 tan yn ddiweddar bues i’n rhan o’r byd addysg uwch mewn rhyw fodd neu’i gilydd – fel myfyriwr, gweithiwr neu lywodraethwr. Ond wedi gadael y byd hwnnw, teimlais fy mod i’n gorfod mynegi fy nheimladau cryf am brifysgolion cyfoes. Penderfynais mai’r ffordd orau o ddweud y cyfan fyddai trwy ysgrifennu nofel ddychanol, a cheisio gwneud i bobl chwerthin yn ogystal â meddwl.”
Marwolaeth sydyn yr Athro Diocletian Jones, Is-Ganghellor ac unben Prifysgol Aberacheron, yw man cychwyn y stori. Y farn gyffredinol yw bod damwain wedi digwydd, ond mae gan Dr Llŷr Meredydd, darlithydd yn yr Adran Griminoleg, ei amheuon. Gyda help y Llyfrgellydd, Menna Maengwyn, mae’n mynd ar ôl nifer o bobl y byddai rheswm da ganddynt i lofruddio’r Is-Ganghellor. Ond mae’r gwir, yn y pen draw, yn rhyfeddach byth.
Mae’r nofel gampws glyfar a ffraeth yn defnyddio arddulliau gwahanol i ddweud y stori, ac mae erthyglau o bapurau newydd, llythyrau, darn o raglen deledu, cofnodion, dyddiadur a ffrwd Twitter ar wasgar trwy’r naratif.
Disgrifiodd Catrin Beard y nofel fel un:
“Doniol, crafog… a phryderus o gredadwy.”
“Dwi’n ceisio gwneud ambell bwynt am sut mae prifysgolion – ac ein cymdeithas yn gyffredinol – wedi newid yn ystod y degawdau diwethaf – er gwaeth, yn aml iawn, gan ddiystyru rhai o’n gwerthoedd anwylaf,” meddai Andrew Green.
“Drwy weithio yn y byd addysg allwch chi ddim llai na chasglu llu o straeon a chymeriadau rhyfeddol. Wedyn, gyda’ch pin yn eich llaw, y cwbl sydd ei eisiau yw pysgota yn amyneddgar – taflu eich lein i’r afon o atgofion a thynnu pysgod allan o’r dŵr. Mae’r ysbrydoliaeth yn gymysgfa o brofiadau personol, dychymyg a darllen am helyntion prifysgolion ledled y byd. Doedd dim prinder defnydd crai!”