Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ffion Dafis yn agor ei chalon rhwng dau glawr

Mae’r actores adnabyddus Ffion Dafis wedi agor ei chalon am y tro cyntaf am golli ei mam i ganser, am yr hyrddiadau sy’n ei phlagio ac am ei pherthynas gymhleth gyda alcohol.

Daw hyn yn sgil cyhoeddi ei chyfrol Syllu ar walia’ a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yr wythnos hon.

Wrth fentro i dir y drwg mae Ffion Dafis yn siarad yn ddi-flewyn ar dafod am bynciau personol a thabŵ gan gynnwys rhai o gyfnodau anoddaf ei bywyd a’r brwydrau bu’n ei hymladd.

‘Rydw i wedi treiddio i ambell le mwy tywyll ar hyd y daith, a dwi’n mawr obeithio y gall y darllenydd uniaethu â pheth o’r hyn sy’n cael ei ddweud’ meddai Ffion.

Gan siarad yn onest ac yn gignoeth fe drafodai ei chariad at ei theulu a’i ffrindiau, ei hanturiaethau wrth deithio’r byd a’i dyheadau am y dyfodol.

Y nod yn rhannol fydd sôn am bynciau y bydd menywod eraill yn gallu uniaethu â nhw.

‘Dim ond trwy ddod i werthfawrogi ein hunain y daw hi’n bosib i ni werthfawrogi a deall y merched anhygoel sydd o’n cwmpas’ meddai Ffion.

‘Mae cymdeithas yn newid a merched di-blant yn dod yn fwyfwy cyffredin am nifer o resymau. Ni ddylai unrhyw ddynes orfod egluro pam ei bod yn ddi-blant ond mae’r pwysau cymdeithasol a’r cwestiynu yn gallu teimlo’n llethol o bryd i’w gilydd’ ychwanegodd.

Mae’r gyfrol yn cynnwys amryw o arddulliau gan gynnwys ysgrifau, straeon byrion, ysgrifau teithiol a deialog.

‘Mae pob darn yn dangos elfennau o dipyn o lanast o ddynes sy’n ceisio gwneud synnwyr ohoni hi ei hun a’r byd gwallgo o’i chwmpas!’ ychwanegodd Ffion.

Mae Ffion Dafis yn enwog fel actores a chyflwynwraig ar radio a theledu. O Fangor yn wreiddiol, mae’n adnabyddus am chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C. Bu’n actio rhan Lady Macbeth yng nghynhyrchiad arloesol Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama enwog Shakespeare yng Nghastell Caerffili yn 2017.