Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Elliw Gwawr yn annog bwyta'n iach gyda'r teulu cyfan

Mae’r ddarlledwraig Elliw Gwawr, sydd hefyd yn awdures ar nifer o lyfrau coginio, yn annog teuluoedd i fwyta’n iachach gyda llai o halen a siwgr wrth gyhoeddi ei llyfr newydd o’r enw Blasus a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon.

 

Mae Elliw hefyd bellach yn fam ac fel un sy’n cydbwyso gwaith a theulu, mae’n gwybod yn iawn am yr heriau sy’n wynebu rhieni wrth ddarparu bwyd cytbwys, felly mae yma bwyslais ar ryseitiau iach, syml, melys a sawrus i’r teulu.

 

“Fel rhywun sy’n caru bwyd, roeddwn i wir eisiau i Gruff fod y math o blentyn sy’n bwyta pob dim! Fe ddechreuodd pethau’n dda, ac fel babi roedd yn fodlon trio popeth. Wedyn, yn flwydd a hanner, fe benderfynodd nad oedd yn hoffi dim byd heblaw am gaws, cig a phasta troellog!” meddai Elliw, cyn ychwanegu:

 

“Erbyn hyn mae Gruff yn trio mwy o fwydydd. Dwi hefyd yn credu bod cynnwys plant yn y broses yn help mawr. Gadewch iddyn nhw eich gweld chi’n coginio, a gadewch iddyn nhw helpu hyd yn oed. Mae’n golygu mwy o lanast, ac fel arfer mwy o amser – rwy’n falch iawn o ddweud bod Gruff yn dipyn o giamstar ar gracio wy erbyn hyn!”

 

Meddai Heulwen Davies, awdures Mam: Croeso i’r Clwb a blog www.mamcymru.wales, yn y rhagair:

“Oherwydd ein rwtîn prysur, mae rôl bwyd o fewn y cartref teuluol wedi newid i’r mwyafrif ohonom. Does dim amser i dreulio oriau’n gwneud jam ac yn pobi bara a chacennau bob dydd, fel y byddai fy nain yn ei wneud... mae’r gyfrol hon yn gweddu’n berffaith i deuluoedd prysur.

 

“Diolch felly i Elliw Gwawr am feddwl amdanon ni rieni ac am geisio’i gorau i’n helpu ni yn ein bywydau bob dydd trwy greu llyfr gwych yn llawn syniadau syml, ymarferol a blasus fydd yn dod â hwyl a phleser yn ôl i’r gegin.”

 

O fwydydd cyntaf i fabis, i ryseitiau sy’n llawn llysiau cudd a phrydau iachus i’r holl deulu, mae gan Blasus 9 pennod yn llawn syniadau, gan gynnwys pennod ar bobi gyda phlant, pobi â llai o siwgr ac un ar y Nadolig. Mae Gruff, ei mab 3 oed hefyd yn helpu gyda nifer fawr o’r ryseitiau, ac yn amlwg yn hapus iawn yn y gegin! Ac i’r rhai â dant melys sydd wedi mwynhau’r elfen hon yn llyfrau blaenorol Elliw Gwawr mae yna ryseitiau newydd ar gyfer cacennau, pwdinau a danteithion blasus i bartïon ac achlysuron arbennig.

 

Yn Chwefror 2011 dechreuodd Elliw’r blog Cymraeg cyntaf am bobi, sef www.panedachacen.wordpress.com. O’r blog cyhoeddwyd dau lyfr coginio llwyddiannus, sef Paned a Chacen a Pobi – y ddwy gyfrol wedi derbyn ymateb gwych.

 

Mae Blasus yn llawn darluniau gwreiddiol gan yr artist Lowri Davies a ffotograffau gan Warren Orchard.