Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyw a'i ffrindiau'n dathlu gwneud y pethau bychain

Mae Cenhinen Fwya’r Byd! sef y llyfr nesaf yng nghyfres boblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw, Jangl y Jiráff, wrth iddi geisio ennill cystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi – ‘Cenhinen Fwya’r Byd’!

Mae’r stori yn gweld y ffrindiau yn dod ynghyd i wneud y pethau bychain i helpu’r genhinen i dyfu’n fawr ac yn gryf. Mae’n dysgu plant sut i weithio gyda’i gilydd, dathlu Cymreictod a phwysigrwydd geiriau Dewi Sant “gwnewch y pethau bychain”.

Dyma’r nawfed yn y gyfres o lyfrau Cymraeg Cyw sydd yn addas i blant 7 ac iau. Mae gwasg y Lolfa yn cydweithio gyda chwmni teledu Boom Cymru ac S4C i greu a chyhoeddi’r gyfres.

Mae’r gyfres wedi cael enw da fel ffordd o ddysgu geirfa i blant bach – geirfa sy’n gysylltiedig gyda phatrymau iaith syml ar thema’r stori. Yma, ceir nifer o eiriau’n gysylltiedig â maint, e.e. mawr, enfawr, anferth, mwy… Mae storïau’r gyfres yn ymwneud â phethau a digwyddiadau cyfarwydd i blant, a’r cymeriadau’n adnabyddus iawn.

Ers lansio’r gyfres Stori Cyw, datblygwyd cyfres dysgu Cymraeg fel ail iaith Dysgu gyda Cyw hefyd. Mae’r llyfrau yma’n rhoi cymorth i blant di-Gymraeg gael gafael syml ar yr iaith gan eu bod yn llyfrau dwyieithog.