Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cofio aberth T. H. Parry-Williams ganrif ers diwedd y Rhyfel Mawr

Ganrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf daeth gwybodaeth newydd am yr effaith bellgyrhaeddol a gafodd y rhyfel ar un o feirdd a llenorion enwocaf Cymru – T. H. Parry Williams. Daw’r wybodaeth i’r fei mewn llyfr newydd sy’n bwrw golwg newydd ar brofiadau T.H. Parry-Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol – Pris cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr gan Bleddyn Owen Huws.

 

Roedd nifer o heddychwyr yn wynebu erledigaeth yn y gweithle ac yn eu cymunedau wrth sefyll fel gwrthwynebwyr cydwybodol yn ystod y rhyfel. Roedd yna bris uchel i’w dalu gyda rhai yn mynd i garchar ac amryw yn cael eu cam-drin; a gwthiwyd nifer at hunanladdiad. Yn achos T. H. Parry-Williams effeithiodd y rhyfel yn drwm arno, a bu bron iddo gefnu ar yrfa fel darlithydd oherwydd y rhagfarn yn erbyn ei ddaliadau.

 

Roedd angen dewrder i sefyll yn erbyn llif y farn gyhoeddus a glynu wrth egwyddor amhoblogaidd. Mae rhaid aberthu weithiau er mwyn bod yn driw i’n hegwyddorion. Roedd mwy nag un math o aberth yn bod adeg y Rhyfel Mawr,” meddai Bleddyn Owen Huws am ei arwr llenyddol.

 

Newidiodd cymdeithas i fod yn llawer mwy parod i ymgecru a dal dig, gyda sawl si am ysbiwyr yn y porthladdoedd ac ymysg yr heddychwyr, gyda’r heddychwyr yn cael eu gweld yn llwfr.

 

Ychwanegodd Bleddyn: “A dyna’r eironi mawr, oherwydd disgwyliai’r wladwriaeth i ddynion ymladd i warchod rhyddid a chyfiawnder, tra dadleuai rhai o’i dinasyddion fod cyflwyno consgripsiwn yn golygu nad oedd parch i ryddid yr unigolyn.”

 

Mae’r gyfrol yma yn edrych ar yr effaith a gafodd y profiadau yma o ddirmyg a dieithrio ar ei fywyd personol a’i yrfa wedi’r rhyfel.

 

“Byth oddi ar imi ddarllen ysgrif Y Pryf Genwair gan T. H. Parry-Williams yr wyf wedi ymddiddori yng nghefndir yr ysgrif honno. Fe’i lluniodd bedair blynedd ar ôl iddo fod yn astudio pynciau gwyddonol fel myfyriwr israddedig gyda’r bwriad o fynd yn feddyg. Penderfynodd gefnu ar ei yrfa fel ysgolhaig Cymraeg a throi at wyddoniaeth ar ôl methu â chael ei benodi i’r Gadair Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth lle’r oedd, hyd at fis Medi 1919, yn ddarlithydd. Roedd llawer o bobl am geisio’i rwystro rhag cael ei benodi oherwydd ei fod yn heddychwr,” meddai Bleddyn.

 

Bu rhaid iddo ymddangos o flaen tribiwnlys milwrol dair gwaith er mwyn cael caniatâd i aros yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Aberystwyth. Bu bron iddo golli'r cyfle i gynnig am y Gadair Gymraeg a swydd pennaeth yr Adran yn 1919 gan i nifer fawr ffafrio’i gyd-weithiwr (Timothy Lewis) a fu’n ymladd yn y fyddin, am y swydd. Doedd ei fam ddim yn cefnogi ei safiad heddychlon ond bu’n ffodus i un ochr o’i deulu ymfalchïo yn ei lwyddiant.

 

“Edmygaf ei barodrwydd i herio’r drefn a sefyll ei dir yn wyneb pwysau cyhoeddus go lethol. Ond bu’n rhaid iddo dalu’r pris am lynu wrth ei egwyddorion, fel sawl heddychwr arall,” meddai Bleddyn Owen Huws, cyn ychwanegu “o ddarllen y cerddi a gyfansoddodd yn ystod y cyfnod [y Rhyfel] cawn yr argraff bendant o unigedd ac o ofn gwrthodiad.”

 

Mae’r llyfr yn cynnwys nifer o ffeithiau newydd am sawl agwedd ar yr hanes a ganfuwyd mewn ffynonellau nad oes neb wedi eu trin na’u trafod o’r blaen: ei awydd am fod yn feddyg yn 1919 ac eto yn 1935; ei garwriaeth â’r meddyg teulu o Drawsfynydd, Dr Gwen Williams; a’i berthynas ag aelodau ei deulu. Ceir hefyd luniau sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf. Cyflwynwyd y gyfrol i Anne Meire, merch i frawd T. H. Parry-Williams, a’i merch Elen Wade.

 

Cafwyd lansiad llwyddiannus iawn i’r gyfrol yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar yr 24ain o Hydref. Cyflwynwyd copi o Pris cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr i Ann Meire (Nanw), nith i T. H. Parry-Williams (merch Oscar, ei frawd), Elen Wade, gor-nith i T. H. Parry Williams (merch Nanw) ac i Lynn Thomas, nith i T. H. Parry-Williams ar ochr teulu Amy Parry-Williams (llun wedi’i atodi).

 

Mae yna gynlluniau i gynnal cynhadledd undydd i goffáu canmlwyddiant penodi T. H. Parry-Williams i’r Gadair Gymraeg yn 2020.