Awdur a aned yn Nhregaron yn clodfori hanes y fro mewn cyfrol newydd ar gyfer yr Eisteddfod
Ganed yr awdur, D. Ben Rees, yn Nhregaron, a magwyd
ef yn Llanddewi Brefi. Mae’n adnabyddus fel awdur toreithiog yn y Gymraeg a’r
Saesneg ac mae’n un o bregethwyr amlycaf ei enwad. Mae’n byw yn Lerpwl ers 1968.
Ond er iddo fudo, gellid honni mai dyn ei filltir
sgwâr ydyw yn dal i fod. Yn y gyfrol hon, Hanes Tregaron a’r Cyffiniau, aiff
ati i gyflwyno rhai o unigolion mwyaf lliwgar y fro – rhai’n enwogion, eraill
yn llai adnabyddus, ond pawb yn cyn ddifyrred â’i gilydd. Ceir yma enwau sy’n
canu cloch, megis Ambrose Bebb, Cassie Davies, Joseph Jenkins, a chymaint mwy. Ond
yn ogystal â’r bobl, teflir y chwyddwydr ar y pentrefi cyfagos hefyd, o Lanilar
i Lanfair Clydogau, o Fronnant i Fetws Bledrws.
Meddai D Ben Rees:
“Roedd rhai o’r bobl a fagwyd yn Nhregaron a’r
cyffiniau yn enwau cyfarwydd yn hanes Cymru fel Henry Richard a W. Ambrose
Bebb. Roedd eraill yn llawer llai adnabyddus, fel fy nhad-cu, William Rees. Ond
yn ei ddydd, [roedd] yn gymeriad cofiadwy a gweithgar yn y dref. Lluniais
gofnodau am bobl a gofiwn yn Nhregaron, Llangeitho, Berth, Swyddffynnon a
Llanddewi Brefi, yn arbennig ffrindiau ysgol a chapel a ffrindiau’r cae
chwarae.”
Mae’r newyddiadurwr Huw Edwards wedi talu
teyrnged i’r awdur am ei gamp yn rhagair y gyfrol. Meddai:
“Prin bod rhaid imi ddweud mai Ben, yn ôl pob
tebyg, yw’r person mwyaf cymwys i lunio cyfrol bwysig fel hon i ddathlu
dyfodiad y Brifwyl i’w ardal enedigol. I’r sawl sy’n adnabod perfedd Ceredigion
yn dda, cewch hyd i drysorau newydd rhwng y cloriau. I’r sawl sy’n ymweld am y
tro cyntaf, cewch y fraint o werthfawrogi cymeriad arbennig yr hen Sir
Aberteifi.”
Mae Hanes Tregaron a’r Cyffiniau gan D. Ben Rees ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).