Mae antur Dylan Rees yn parhau. Does dim dianc iddo. Mae'n amau pawb - ei fam, ei ffrindiau a phawb sy'n dod i gysylltiad ag ef. Yr unig beth mae'n siŵr ohono yw mai ei gyfrifoldeb ef yw diogelu'r llyfr llawn cyfrinachau sydd yn ei ofal - y llyfr a gafodd yn dilyn marwolaeth sydyn Martin Bowen. Ac mae hynny'n dipyn o her o gofio fod Strachan a dynion 3G yn llechu yn y cysgodion yn rhywle.
 thri person, o leiaf, wedi marw o achos y lyfr, tybed a fydd dychwelyd i'w gartref yn Abertawe yn help i Dylan roi trefn ar bethau? A fydd yn llwyddo i ddianc rhag perygl neu a fydd rhywun arall yn cael ei ladd wrth amddiffyn y llyfr?
Yr ail mewn cyfres o nofelau antur cyffrous a gafaelgar gan yr awdur profiadol, Elgan Philip Davies.