Dirgelwch y Dieithryn
Pan mae Iwan, Mair a'u ffrindiau'n gweld dyn dieithr, blin yn y tŷ gwag wrth y parc maen nhw'n gwybod yn syth beth yw e - lleidr! Eu tasg nhw dros wyliau'r haf yw ei ddal. Rhaid cael cynllun, a hynny ar unwaith, felly ymunwch â'r ffrindiau yn eu hantur gyffrous!