Dylan Rees: Allan o'i Gynefin
Nofel antur gyfoes a gafaelgar ond nid stori antur gyffredin mohoni. Cyflwyniad yw'r gyfrol ar gyfer taith enbyd y bachgen cyffredin deuddeng mlwydd oed o Abertawe, Dylan Rees. Wrth fynd i aros gyda ffrind dieithr ei dad, Martin, buan iawn y sylweddola Dylan ei fod wedi cael ei hun yng nghanol clamp o antur sy'n llawn cyffro a pherygl.