"Mae'n Ddiwedd Byd Yma...": Mynydd Epynt a'r Troad Allan yn 1940
Yn 1940, ar oriau tywyllaf yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd talp helaeth o dir Cymru i'w ddefnyddio fel maes tanio i hyfforddi milwyr. Gorfodwyd 54 o deuluoedd i ymadael â Mynydd Epynt ar fyr rybudd, a chwalwyd cymdeithas wâr, Gymraeg ei hiaith, mewn ychydig fisoedd.
Roedd hyn yn drychineb, a thrychineb hefyd yw fod cymaint o anwybodaeth am y diboblogi gorfodol a ddigwyddodd.
Ymgais i adrodd peth o hanes y mynydd a'i bobl, ac o'r digwyddiadau yn 1939 a 1940, yw'r gyfrol hon.
*Bydd eich copi yn cael ei bostio ar gyhoeddi (canol Gorffennaf 2023)