Dyma gyfrol i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes bywyd bob dydd ein cyndeidiau. Treuliodd yr amaethwr Evan Jones (1850-1928) o Dy'n-y-pant, Llanwrtyd, ei oes yn ymddiddori yn hanes, hynafiaethau, dywediadau, cymeriadau, traddodiadau ac arferion ei fro, gan eu cofnodi'n fwriadol cyn iddynt fynd yn angof. Dro ar ôl tro mae'n dyfynnu geiriau ac atgofion hen bobl, ac felly yn ein dwyn yn ôl i chwarter olaf y ddeunawfed ganrif. Fe gasglodd ac fe gasglodd ac fe gasglodd, a champ y golygiad graenus hwn gan Herbert Hughes yw rhoi trefn ar gyfran o'r casgliad rhyfeddol hwnnw am y tro cyntaf. Er bod diddordeb Evan Jones yn perthyn i'w filltir sgwâr mae cynnwys ei bapurau'n adlewyrchiad o genedl a'i chyflwr ac felly o ddiddrodeb ac o werth i Gymru gyfan. Pytiog yw natur y cofnodion ond yma a thraw mae dawn sgrifennu Evan Jones yn gweddnewid ambell gofnod hwy yn yn em fechan gofiadwy. Ar adegau mae'r cofnodion yn disgleirio o ddireidi. Pa syndod ei fod yn uchel ei barch gan O.M.Edwards? Ac Evan Jones yn ôl papur newydd o'i gyfnod, oedd y doyen of peasant historians. 'Bu yng Nghymru,' meddai Robin Gwyndaf, cyn-guradur Llên Gwerin, Sain Ffagan, 'draddoiad gwir gyfoethog o gynheiliaid a chofnodwyr ein llên a'n llafar, ond ohonynt i gyd Evan Jones oedd un o'r rhai pwysicaf.'