Herbert Hughes
Gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd Herbert Hughes, a chyn-brif ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Ymddeolodd i olwg y Bannau yn Llanddew, ger Aberhonddu.
Cyhoeddwyd nifer o lyfrau o'i waith, yn cynnwys ei gyfrol, 'Mae'n ddiwedd byd yma...'. Mynydd Epynt a'r Troad Allan yn 1940.