Yn ôl Saunders Lewis roedd Arwisgo 1969 yn drobwynt yn hanes Cymru. Yn y flwyddyn honno, meddai, "fe fu hi'n go agos at...ryfel agored rhwng plismyn y llywodraeth a phobl ifainc Cymru Gymraeg. Ni bydd hi fyth eto yn union fel cynt."
Yma adroddir yr holl hanes cythryblus trwy gyfrwng lleisiau rhai o'r cymeriadau amlycaf, yn ymgyrchwyr, newyddiadurwyr a gwleidyddion. Cawn hanes y ffraeo a'r rhwygiadau o fewn sefydliadau amlycaf Cymru fel yr Urdd a'r Orsedd, yn ogystal â'r digwyddiadau abswrd a dwys yn arwain at y seremoni yng Nghaernarfon. Cawn wybod hefyd am ralïau mawr Cymdeithas yr Iaith, gwrthdystiadau myfyrwyr Aberystwyth a Bangor, ymddangosiadau dramatig yr FWA, ymgyrch fomio MAC a gweithgareddau amheus yr heddlu cudd.
Dyma lyfr sy'n creu darlun o flynyddoedd cynhyrfus y chwedegau ac yn rhoi syniad o sut brofiad oedd bod ym merw'r frwydr rhwng cenedlaetholwyr Cymru a sefydliad Prydeinig y cyfnod.